Ezekiel 31

Torri'r Goeden Gedrwydd

1Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis
31:1 diwrnod cyntaf y trydydd mis Mehefin 21, 587 CC mae'n debyg.
. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr Arglwydd:
2“Ddyn, dywed wrth y Pharo
31:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC
, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd:

‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di?
3Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus,
a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig.
Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau.
4Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu,
a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal.
Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas;
a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd.
5Ond roedd y goeden hon yn dalach
na'r coed o'i chwmpas i gyd.
Canghennau mawr a brigau hirion,
a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.
6Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau,
a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau.
Roedd y gwledydd mawr i gyd
yn byw dan ei chysgod.
7Roedd yn rhyfeddol o hardd,
gyda changhennau hirion;
a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfn
at ddigonedd o ddŵr.
8Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw
ddim yn cystadlu â hi.
Doedd canghennau'r coed pinwydd
ddim byd tebyg;
a'r coed planwydd yn ddim
o'u cymharu â hi.
Doedd dim un o goed gardd Duw
mor hardd â hon!
9Fi wnaeth hi'n hardd
gyda'i holl ganghennau.
Roedd coed Eden i gyd,
coed gardd Duw, yn genfigennus ohoni.

10“‘Felly, dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau, 11rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi ei thaflu hi i ffwrdd. 12Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi ei thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd. 13Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.

14“‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.

15“‘Dyma mae'r Arglwydd, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo. 16Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda pawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni. 17Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda pawb arall oedd wedi eu lladd gan y cleddyf.

18“‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr Arglwydd.

Copyright information for CYM